Friday, February 23, 2007

Creu Cymru ddwyieithog - i ba raddau mae'r Blaid Lafur Gymreig o ddifrif ?

Mewn nifer o ffyrdd mae'r iaith Gymraeg wedi dod ymhell ers protestiadau'r 1970au, eto wedi dweud hynny, cred nifer ohonom na chyrhaeddodd Deddf yr Iaith Gymraeg ei llawn botensial a bod lle i gryfhau a gwella.

Mae angen adolygu'r sefyllfa ac mae'r drafodaeth wedi symud ymlaen erbyn hyn. I'r rhai hynny ohonoch sydd wedi dilyn dadleuon a digwyddiadau'r deunaw mis diwethaf, y cwestiwn yn awr yw nid pryd neu pam fo angen 'adolygiad' neu Ddeddf newydd i bob pwrpas, ond yn hytrach beth ddylai'i chynnwys fod.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymfalchïo yn y ffaith mai Llywodraeth Geidwadol a gyflwynodd Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Talwn deyrnged i'r Arglwydd Roberts o Gonwy am ei waith hynod galed a'i ymroddiad wrth ddod â hi i fodolaeth.

Y pwynt ar yr adeg honno oedd mai prif bwrpas y Ddeddf oedd creu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yr wyf yn cofio ar yr adeg honno , Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan (a oedd yn AS yn San Steffan ar y pryd) yn gwrthod pleidleisio drosto ac yn ei alw yn 'Fesur Cwango'r Iaith Gymraeg'.

Eto, ddwy flynedd yn ôl dywedodd ei fod am ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan felly ddirymu Deddf 1993 i raddau helaeth iawn. Mae'n eironig mewn ffordd, ddwy flynedd yn ôl mai'r Blaid Lafur Gymreig ddechreuodd y drafodaeth hon ynglŷn ag edrych eto ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, eto yn awr maent am gamu oddi wrthi.

Roedd eu sylwadau ar raglen deledu wleidyddol 'Dragon's Eye' nos Iau diwethaf yn ei gwneud yn eglur nad ydynt eisiau trafod y glo mân ynglŷn â beth yw'r drafodaeth hyn amdano go iawn.

Nid ydynt am archwilio'r Ddeddf, ei ehangu nag ymgynghori ynglŷn â hi yn eang – maent ond eisiau rheoli'r canlyniadau.

Pwrpas sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y lle cyntaf oedd rhoi cyfrifoldeb i'r Bwrdd i hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a'i hamddiffyn fel y byddai'n ddiogel ac ar gael i bawb yng Nghymru. Nid wyf yn credu mai'r bwriad erioed oedd cyfyngu ar yr iaith drwy ddod â hi o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth.

Nid yw'r Blaid Lafur Gymreig hyd yma wedi rhoi manylion na gwybodaeth
ynglŷn â sut mae dod â Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan adain y Llywodraeth, i fod yn fanteisiol i'r Gymraeg mewn unrhyw fodd.

Yr ydym yn awr wedi cyrraedd sefyllfa yng Nghymru sydd yn wirioneddol eironig…………..oherwydd y gwirionedd yw bod ein hannwyl iaith yn awr o dan fwy o fygythiad nag y bu erioed yn y 1970au.

Pam bod angen adolygu'r Ddeddf ?

Nid oes gan yr iaith Gymraeg statws iaith swyddogol.

Felly beth am 'statws swyddogol'? Beth yw hyn yn ei olygu?

Mae Deddf '93 yn sôn am y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal a theg -

dylai hyn olygu wrth gyflawni busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder.........

fodd bynnag, gosodir amod ar ôl y frawddeg olaf hon sydd yn dweud :

'
cyn belled ag y bo hyn yn rhesymol ymarferol'.

Dyma'r cafeat a'r ffaith yw bod gosod yr amod hwn yn golygu na all y Gymraeg gael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg.

Y ffaith ydyw ei bod yn siomedig nad yw'r Gymraeg yn cael ei chydnabod fel 'iaith briodol' Cymru a byddai rhoi'r statws hwn iddi yn hynod o symbolaidd.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i greu Cymru ddwyieithog …….felly, yr ymddengys, y Blaid Lafur Gymreig hefyd.

Mae gwledydd Ewropeaidd eraill wedi rhoi statws iaith swyddogol i'w ieithoedd lleiafrifol.

Mae Catalaneg a Basgeg yn ieithoedd swyddogol Sbaen ac yn 2003, pasiodd Iwerddon ei Deddf Ieithoedd Swyddogol.(Fodd bynnag mae'r Gwyddelod wedi mwynhau statws iaith swyddogol yn Iwerddon ers 1922)

Yn Iwerddon (poblogaeth o oddeutu 4 miliwn), mae 100,000 o bobl yn defnyddio'r iaith Wyddeleg yn eu bywyd bob dydd.

Yng Nghymru (poblogaeth o oddeutu 3 miliwn), mae 3000 - 400,000 o bobl yn defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.

Beth yw anfanteision ymarferol peidio â mwynhau statws iaith swyddogol ?

Mae'n golygu bod y Comisiwn Ewropeaidd a'r Senedd Ewropeaidd yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion a chymunedau Ewropeaidd sydd yn siarad iaith sydd yn wahanol i iaith swyddogol eu gwlad drwy hepgor yr ieithoedd hyn o rai o'u rhaglenni gwariant.

Mae'r Wyddeleg (oherwydd ei bod yn cael ei dosbarthu yn iaith swyddogol) yn awr wedi cael statws iaith weithredol Ewropeaidd o fewn y Gymuned Ewropeaidd. Nid oes gan y Gymraeg y statws hwn.

Beth fydd statws iaith swyddogol yn ei olygu?

Bydd rhoi statws swyddogol i'r iaith yn gam cyntaf tuag at greu gwlad ddwyieithog lle y mae'n bosibl cael gwasanaethau dwyieithog. Bydd rhoi statws dwyieithog yn rhoi pwysau i sefydlu hawliau iaith sylfaenol.

Pam fod angen hyn arnom ?
Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn rhoi gwybodaeth eglur i'r cyhoedd ynglŷn â pha hawliau iaith y gallant neu na allant eu mwynhau. Nid yw'n nodi eu dewisiadau.

Y gwirionedd yw bod nifer o sefydliadau yng Nghymru yn gwrthod neu yn amharod i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg oherwydd nad oes angen iddynt wneud hynny.

Er waethaf y ffaith fod yr iaith Gymraeg yn rhan o'r agenda cydraddoldeb yma yng Nghymru, nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn sefydlu hawliau iaith clir ar gyfer y cyhoedd.

Mae angen i ni ei gwneud yn eglur beth y gall defnyddwyr yr iaith Gymraeg ei ddisgwyl yng nghyswllt gwasanaeth Cymraeg.

Gall hyn yn ei dro hyrwyddo'r defnydd ymarferol o'r Gymraeg drwy roi hyder iddynt i'w defnyddio mewn amgylchiadau penodol. Byddai'n galluogi'r cyhoedd.

Mewn rhai achosion gall ei bod yn rhesymol ac yn ymarferol sefydlu rhai hawliau iaith absoliwt- er enghraifft :

  • yr hawl i gyfathrebu gyda chorff cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg
  • yr hawl i dderbyn a llenwi ffurflenni yn Gymraeg
  • yr hawl i gyfrannu i ymchwiliad cyhoeddus neu gyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg
  • yr hawl i dderbyn gwasanaethau ffôn cyhoeddus, gan gynnwys llinellau cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg

Un o'r prif wendidau yn y ddeddfwriaeth bresennol yw nad ydyw yn rhoi unrhyw ymrwymiad statudol ar sefydliadau cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth i Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel rhan o unrhyw ymchwil i gynllunio ieithyddol.

Beth mae cynllunio ieithyddol yn ei olygu a pham yw'n bwysig?

Os ydym o ddifrif ynglŷn â Chymru ddwyieithog, yna mae'n hanfodol. Mae medru cynllunio ymlaen llaw yn golygu cael gwybodaeth ynglŷn â pha feysydd sydd angen eu gwella neu weithio arnynt a ble mae angen gwario arian er mwyn cynyddu'r gefnogaeth.

Yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae cynllunio ieithyddol yn gweithio mewn cylchoedd o dri deg o flynyddoedd – ac yr ydym yn dod at ddiwedd un ac yn dechrau cyfnod o dwf a chynnydd aruthrol.

Y sector gyhoeddus, breifat a gwirfoddol

Wrth drafod deddfwriaeth, nid yw'n ddefnyddiol iawn siarad yn unig yn nhermau'r sector breifat, wirfoddol neu gyhoeddus mwyach.

Mae'r oes wedi newid. Mae iaith a'r modd y defnyddir hi wedi newid yn fawr iawn yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf. Nid oes ond angen edrych ar y camau breision a gymerwyd mewn TG a thechnoleg ffonau symudol i weld hynny.

Yr ydym yn awr wedi cyrraedd man lle darparir nifer o wasanaethau i'r cyhoedd gan y sector breifat, felly mae'n gwneud synnwyr i ni edrych nid ar statws y darparwyr gwasanaeth ond mwy ar y math o wasanaethau a ddarparir ganddynt.

Yn nhermau'r gwaith a wneir gan y sector breifat, gwnaethpwyd llawer o waith canmoladwy gyda nifer o Fusnesau Bychain a Chanolig yn cydnabod nid yn unig ei fod yn creu cyfoeth a chyflogi pobl sydd yn galluogi'r iaith Gymraeg i ffynnu, (yn enwedig yn y cymunedau sydd yn gadarnleoedd yr iaith Gymraeg), ond bod darparu gwasanaethau dwyieithog i gwsmeriaid ac annog eu gweithlu i siarad Cymraeg wedi eu gwneud yn fwy cynaliadwy.

Mae'n siomedig nodi bod rhai cwmnïau mwy o faint a fyddai yn meddu ar yr adnoddau i ddilyn y trywydd hwn wedi dewis peidio â gwneud hynny.

Fel rhywun a fu'n rhedeg busnes, yr wyf yn derbyn bod byd o wahaniaeth rhwng yr agwedd wirfoddol sydd yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng cwmni unigol a'i gwsmeriaid a'r angen am unrhyw gynllun iaith mandadol.

Yr wyf yn deall yn iawn y buasai cynlluniau iaith gorfodol yn medru cynyddu costau i gwmnïau bychain a chanolig sydd eisiau gwneud ymrwymiad i Gymru.

Mae'n bosibl y gellid pasio'r costau hyn ymlaen i'r cwsmer. Gallai hyn annog cwmnïau eraill i beidio â dod i Gymru.

Mae'n bryder gennyf fod cyflwyno cynlluniau busnes yr iaith Gymraeg ar gyfer pob busnes yng Nghymru yn gallu difetha'r ewyllys da sydd yn bodoli eisoes tuag at yr iaith, a gafodd ei feithrin yn ystod yr oddeutu deng mlynedd ddiwethaf.

Fodd bynnag yr wyf hefyd yn cytuno gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynglŷn â'r mater hwn. Os gall rhai cwmnïau weld y budd masnachol o ddefnyddio gwasanaethau dwyieithog, yna dylid perswadio eraill i ddilyn, ond mae angen cydnabod yn y maes hwn bod :

uniad gwirfoddol yn well na phriodasau gorfodol.

Golyga hyn bod angen ehangu'r drafodaeth ac ni ddylem fod ofn gwneud hynny.

Yn nhermau cael mynediad i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg, fy nghred bersonol i yw bod gan bob unigolyn yng Nghymru'r hawl i gael mynediad i'r gwasanaethau hyn drwy gyfrwng y naill iaith genedlaethol neu'r llall - Cymraeg neu Saesneg.

Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyswllt gwasanaethau i blant, yr henoed a'r rhai sydd yn sâl yn feddyliol.

Fodd bynnag yr wyf yn cydnabod bod rhannau o Gymru lle nad yw hyn yn ymarferol.

Iaith Pawb

Yr wyf eisiau sôn ychydig am Iaith Pawb, Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt yr Iaith Gymraeg.

Mae'r mesurau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu hwn yn anelu tuag at gyflawni'r prif dargedau canlynol erbyn 2011;

  • dylai canran y bobl yng Nghymru sydd yn medru siarad Cymraeg fod wedi cynyddu gan 5 pwynt canran o'r ffigwr sydd yn ymddangos yng nghyfrifiad 2001
  • atal y dirywiad yn nifer y cymunedau lle siaradir Cymraeg gan fwy na 70 % o'r boblogaeth
  • bydd canran y teuluoedd lle siaradir Cymraeg fel y brif iaith sgwrsio/cyfathrebu rhwng oedolion a phlant yn y cartref wedi cynyddu yn sylweddol
  • bydd mwy o wasanaethau gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae'r rhain yn dargedau uchelgeisiol o gofio'r amserlen a'r cynnydd a wnaethpwyd eisoes, eto yr ydym yn y flwyddyn 2007 gyda Llywodraeth nad yw'n gweld yr angen i :

  • ddatblygu mesurau statudol pellach i ddelio â hawliau ieithyddol;
  • datblygu mesurau statudol er mwyn hyrwyddo gweinyddiaeth ddwyieithog mewn cyrff cyhoeddus.
  • Datblygu cyflwyniad deddfwriaeth Gymraeg a fyddai'n ei gwneud yr un mor hawdd defnyddio'r Gymraeg â'r Saesneg yng Nghymru
  • Penodi rheolydd annibynnol gyda phwerau statudol a chyfrifoldebau tebyg i Gomisiynydd.

Ynglŷn â'r pwynt olaf hwn, byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn sefydlu comisiynydd iaith annibynnol oddi wrth y Llywodraeth er mwyn rheoleiddio a gorfodi deddfwriaeth ar ran siaradwyr Cymraeg a Saesneg.

Byddai ef/hi hefyd yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol er mwyn sicrhau y cedwir at ysbryd y ddeddfwriaeth newydd o fewn y Ddeddf ddiwygiedig.

Byddem â diddordeb mewn gweld sut y gallai deddfwriaeth ddiwygiedig gynyddu ansawdd a maint y gwasanaethau a ddarparir i gwsmeriaid gan gyrff cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg mewn dull trefnus a chydlynol dros gyfnod o amser.

Mae'n ddiddorol nodi yn Iwerddon ceir darpariaeth yn y ddeddfwriaeth ddiweddaraf i ehangu ymhellach fel bod cyrff (ac eithrio sefydliadau cyhoeddus) yn dod o fewn cwmpasiad y ddeddfwriaeth os ydynt angen trwydded neu ganiatâd i weithredu gan Lywodraeth Iwerddon. Yn Iwerddon gall sgôp y Ddeddf gael ei hymestyn yn y dyfodol i gynnwys sectorau eraill, megis banciau, cwmnïau yswiriant a thelegyfathrebu.

Mae Deddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus baratoi Cynlluniau Iaith. Mae'n gosod dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus a hefyd mae'n sefydlu hawliau sylfaenol ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol yn nhermau derbyn gwasanaethau mewn Gwyddeleg drwy ei Siartr Iaith.

Gwneir dewisiadau'r bobl yn glir.

Mae'r hyn sydd wedi digwydd dros y dŵr yn rhoi digon i feddwl amdano. Yn fy marn i, ymddengys iddynt gymryd y gorau o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a'i datblygu ymhellach.

Wrth gwrs mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn deall ei bod yn bwysig fel rhan o unrhyw argymhelliad i adolygu neu ddiwygio deddfwriaeth bresennol, bod yn rhaid i ni ymgynghori yn ystyrlon ac yn eang gyda phob parti sydd â diddordeb a dyna y bwriadwn ei wneud.

Yr ydym hefyd yn cydnabod mai un rhan o'r jig-so yw'r ddeddfwriaeth sydd yn ein helpu i ddiogelu iaith fyw hynaf yr ynysoedd hyn.

Mae ein hiaith Gymraeg yn haeddu'r hawl i gael ei hadfywio ac i oroesi fel iaith gymunedol.

Yn ogystal â deddfwriaeth, mae'r un mor bwysig nad ydym yn colli golwg ar y ffaith mai darn arall pwysig iawn yn y jig-so yw addysg.


______________________________________________________________________
This email has been scanned by the MessageLabs Email Security System.
For more information please visit http://www.messagelabs.com/email
______________________________________________________________________

0 Comments:

Post a Comment

<< Home

My Photo
Name:
Location: Aberystwyth, Mid & West Wales